Sylwer fod y cymhwysiad hwn dan ddatblygiad. Os ydych chi'n gweld unrhyw gamgymeriadau neu os nad yw rhywbeth yn gweithio, cysylltwch â ni yn evidence.service@wales.nhs.uk.
Mae'r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff cyfoes, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y pwnc eang o camddefnyddio alocohol. Mae’r map hwn yn cynnwys tystiolaeth ar ymyriadau cyffredinol, dethol a dynodedig ac mae wedi ei greu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Mae ymyriadau Cyffredinol yn ymyriadau ataliol sydd yn targedu’r cyhoedd, poblogaethau cyfan neu leoliadau penodol. Mae’n cynnwys tystiolaeth ar, er enghraifft, argaeledd a dulliau o farchnata alcohol ac ymyriadau mewn lleoliadau addysgol. Gallai’r deunydd hwn fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n gyfrifol am bolisïau, rheolwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio yn y GIG, awdurdodau lleol neu’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol a’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg, gwirfoddol neu gymunedol.
Mae ymyriadau Dethol yn targedu grwpiau neu unigolion yn y boblogaeth sy’n wynebu risg uwch o broblemau alcohol. Gallai’r deunydd hwn fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n gweithio gydag unigolion yr aseswyd bod eu defnydd o alcohol yn beryglus neu’n niweidiol neu sydd â chyswllt â chyflwr cymdeithasol neu iechyd sy’n cynyddu risg (er enghraifft salwch meddwl, digartrefedd) neu’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau ar gyfer y grwpiau hyn.
Mae ymyriadau Dynodedig yn targedu’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol presennol. Gallai’r deunydd hwn fod o ddiddordeb i ymarferwyr sy’n gweithio gyda’r grŵp hwn neu’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau ar eu cyfer.
Mae’r ffynonellau yn y map hwn wedi eu cyfyngu i ganllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth (a gynhyrchwyd neu a achredwyd gan NICE) ac adolygiadau systematig a gynhyrchwyd gan ddefnyddio methodoleg gadarn sydd yn dilyn egwyddorion adolygu systematig. Mae hyn yn golygu bod yr holl ffynonellau sydd wedi eu cynnwys wedi defnyddio strategaeth ymchwil gynhwysfawr a phenodedig, ffynonellau dethol yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol ac wedi asesu’r risg o ragfarn yn yr astudiaethau sylfaenol sydd wedi eu cynnwys (gweler y dudalen 'am' am fanylion ein dulliau a'r rhestr o adnoddau y chwiliwd amadanynt ar gyfer y mapiau).
Dyddiad y chwiliad diwethaf: Ebrill 2024. Disgwylir y diweddariad nesaf: Ar y gweill.
Sylwch, efallai y bydd angen i chi sgrolio'n llorweddol i weld yr holl gategorïau o dystiolaeth yn y tabl.